Psalms 120

Gweddi am help

Cân yr orymdaith.

1Yn fy argyfwng dyma fi'n galw ar yr Arglwydd
ac atebodd fi!
2“O Arglwydd, achub fi rhag gwefusau celwyddog,
a thafodau twyllodrus!”
3Dyma gei di ganddo
– ie, dyma fydd dy gosb –
ti, dafod twyllodrus:
4Saethau miniog y milwyr
wedi eu llunio ar dân golosg!
5Dw i wedi bod mor ddigalon,
yn gorfod byw dros dro yn Meshech,
ac aros yng nghanol pebyll Cedar.
120:5 Meshech … Cedar Meshech: gwlad i'r de o'r Môr Du; Cedar: llwyth o bobl yn byw yn anialwch i'r de-ddwyrain o Israel.

6Dw i wedi cael llond bol ar fyw
yng nghanol pobl sy'n casáu heddwch.
7Dw i'n siarad am heddwch,
ac maen nhw eisiau rhyfela!
Copyright information for CYM